Pro PGA preswyl a stociwr Titleist
Pro PGA preswyl a stociwr Titleist


Ar wahân i offer golff gan Titleist a chynhyrchwyr blaenllaw eraill, mae’r siop yn stocio’r dillad golff diweddaraf i ddynion a merched gan gynhyrchwyr blaenllaw dilladau golff fel Glenmuir ac Ashworth.
Mae nifer o’r eitemau yma yn arddangos logo enwog Clwb Golff Nefyn gyda’r tri phennog arno. Gall ymwelwyr ddarganfod nifer fawr o femorabilia eraill yn y siop, gan gynnwys marcwyr peli, atgyweiriwyr glaniad a hyd yn oed ffotograffau o Benrhyn enwog Porthdinllaen.
