Dathliadau'r Canmlwyddiant

Ebrill 2007
Y Capten a Chapten y Merched yn dadorchuddio plac Canmlwyddiant y Clwb yn dathlu can mlynedd o golff yn Nefyn.
Y Capten ac Aelodau yn cyflwyno llwnc destun i’r dyfodol yn ystod seremoni’r dadorchuddio.

Mai 2007
Aelodau yn dathlu pen-blwydd y Clwb yn 100 oed ar Mai 7fed 2007.
Llun: Dewi Wyn

Mehefin 2007
Yn ennill y gystadleuaeth am y tro cyntaf, gwelir Tony Smith yn derbyn Tlws y Sylfaenydd gan Y Capten, Capten y Merched ac aelodau o deulu John Wales, a gyflwynodd y Tlws ar Ganmlwyddiant y Clwb.

Gorffennaf 2007
Nefyn yn cynnal Pencampwriaeth Bechgyn Cymru. Yr enillydd, Joe Vickery o Glwb Casnewydd yn derbyn y Cwpan gan Gapten y Clwb a Dr Phil Dixon, Llywydd Undeb Golff Cymru.
Diwrnod y Capten yn Nefyn gyda’r Capten, Mr Emyr Evans a’r Llywydd, Mr Ioi Williams, yn barod i gyflwyno’r gwobrau.

Awst 2007
Nefyn yn dathlu canmlwyddiant gyda Dawns ysblennydd, lle yr adlonnwyd dros 350 o aelodau a gwesteion. Cafwyd ymddangosiad gan ‘The Pasadena Roof Orchestra’
a’r ‘Taylor Maid Band’.

Medi 2007
Nefyn yn gwahodd aelodau o Glybiau eraill ar draws Cymru oedd yn dathlu eu canmlwyddiant yn 2007.
Chwaraeodd y Capten, Mr Emyr Evans, 100 twll gan godi £3,000 at ei elusen.

Tachwedd 2007
Cinio Canmlwyddiant y Clwb gyda’r Capten a Chapten y Merched yn croesawu nifer o westeion enwog, gan gynnwys David Harrison, Capten yr R&A, John Parrott (Siaradwr Gwadd) a Dr Phil Dixon, Llywydd Undeb Golff Cymru.
