sitemap contact us
home page the course the club pro shop visitors members latest news links
Nefyn & District Golf Club - go to splash screen
its all about the golf
The Course
HanesYmwelwyr EnwogY CwrsFfioedd Chwarae

 

Golygfeydd môr a mynydd heb eu hail o bob un o’r 26 twll.

Nefyn - un o gyfrinachau cuddiedig cyrsiau golff

Cymru!

Chwaraewyd golff am y tro cyntaf yn Nefyn yn 1907 yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhafarn Tŷ Coch ar draeth Porthdinllaen. Dyma hafan i olffwyr mewn llecyn cysgodol islaw'r tyllau ysblennydd ar drwyn Porthdinllaen. 


Yn dilyn y cyfarfod yma, gosodwyd cwrs naw twll a dyma oedd cychwyniad golff yn Nefyn. Ar un adeg, cyfeiriwyd at Glwb Golff Nefyn fel un o gyfrinachau gorau Cymru, ond erbyn heddiw datgelwyd y gyfrinach a gwelir ymwelwyr o bob rhan o’r byd yn heidio i’r arfordir godidog yma ar Benrhyn Llŷn. Byddant yn profi, nid yn unig cwrs golff heriol, ond golygfeydd syfrdanol a thawelwch ei leoliad neilltuedig.

Nefyn, golf on the upper deck of an aircraft carrier

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, etholwyd Nefyn yn un o’r 100 Cwrs Golff uchaf ymysg cyrsiau'r Deyrnas Unedig gan gylchgrawn ‘Golf World’.

Dywedodd J H Turner o Glwb Golff Frilford Heath, a fu’n trafod datblygu’r cwrs yn y tridegau, fod y cwrs wedi ei leoli mewn un o’r llefydd prydferthaf a welodd erioed.


Mae cwrs Nefyn yn un a gaiff ei fwynhau gan olffwyr o amrywiol safonau gan fod y tyllau eu hunain yn creu'r her i’r golffiwr - mae’r risg neu’r wobr yn ddibynnol ar eich dewrder!

The 13th green at Nefyn

Estynnwch groeso cynnes i chi i brofi hyfrydwch y cwrs llawn harddwch yma, ei amgylchoedd  gwych a’r croeso dihafal a erys amdanoch. 

 

North Wales' Pebble Beach… …breathtaking scenery
Book a tee time online