Man cyfarfod i’ch holl anghenion
Man cyfarfod i’ch holl anghenion
Mae Clwb Golff Nefyn a’r Cylch ar gyrion pentref Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn.
Erys adeilad modern amdanoch, gyda dau far, lolfa, ystafell snwcer, ystafell newid i ymwelwyr, cyfleusterau ymolchi a llogi llieiniau.
Bwyty 80 sedd eang, gyda golygfeydd o’r cwrs a’r arfordir sy’n tynnu’ch anadl.
Yn ogystal, mae cyfleusterau achlysuron a chynadleddau ar gael trwy drefniant.

Wedi profi a, gyda gobaith, cyfarfod â her cwrs ysblennydd Nefyn, gallwch ymlacio yn lolfa eang a chyffyrddus y Clwb, gyda’i golygfeydd panoramig o’r cwrs. Ar y llaw arall, gallwch ddadflino yn y bar sbeic cyfagos, mwynhau llymaid o’r bar moethus ac efallai cael pleser o wylio golff mewn cadair gyffyrddus.
Ac i’r rhai ohonoch sy’n bwriadu parhau gyda’ch gorchestion chwaraeon, mae ystafell snwcer ar gael i’ch adlonni.
Y Bwty
Pa un ai brecwast i’r golffiwr i roddi cychwyn iawn i’r diwrnod, byrbryd amser cinio i’ch ysgogi ar gyfer 18 twll arall neu ginio ar ddiwedd y diwrnod ydy eich cais, mae bwydlen yn y bwyty ar gyfer pob achlysur, anghenion ac archwaeth pawb. Bydd ein prif gogydd, Brian Pritchard a’i staff, yn hapus i edrych ar ôl y golffiwr unigol, grwpiau bychain neu gymdeithas o olffwyr trwy gydol eich arhosiad. Mae ystod lawn o griliau poblogaidd ar gael i’r golffwyr, gan gynnwys
brecwast trwy’r dydd
dysglau pysgod
stecen
byrbrydau a brechdanau
prydau arbennig gyda dysglau'r diwrnod.
ORIAU ARLWYO
08.30 am – 8.00 pm Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn
08.30 am – 7.00 pm Dydd Sul
Gellir trafod trefniadau arlwyo am achlysuron eraill gyda’r Prif Gogydd. Derbynnir yr archebion bwyd olaf 15 munud cyn yr amseroedd cau uchod.

Cynadleddau
Os dach chi’n edrych am gynnal cynhadledd neu seminar fusnes, a hyd yn oed cyfuno rownd o golff, does unlle tebyg i Nefyn.
Mae gan y Clwb gyfleuster i gynnal cynhadledd i hyd at 80 o bobl, yn ddibynnol ar y cynllun a ffafrir.
Mae digonedd o le i barcio ac oes angen llety, gall y Clwb wneud trefniant pecyn gyda rhai o’r gwestai lleol.

Pam na wnewch chi drefnu eich dathliad pen-blwydd nesaf, eich dathliad pen-blwydd priodas neu eich neithior priodas yn y Clwb? Yn ogystal â’r bar a’r cyfleusterau bwyta, mae llawr dawnsio a man chwarae band byw neu ddisgo. Gall y Clwb hefyd edrych ar ôl y trefniadau hollbwysig fel cynllunio byrddau a thynnu lluniau.