Nefyn, da ni byth yn cau !
Nefyn, da ni byth yn cau !

Bydd gan ymwelwyr i Nefyn ddewis o chwarae'R Hen Gwrs neu’r Cwrs Newydd, er y gobeithir iddynt neilltuo digon o amser i chwarae’r ddau!.
Mae’r Hen Gwrs yn cychwyn gyda thri thwll par pedwar ac un twll par pump, yr ail, trydydd a’r pedwerydd yn dilyn yr arfordir cyn troi i’r mewndir i chwarae chwe thwll gyda golygfeydd godidog o Eryri, Yr Eifl, Garn Boduan a Garn Fadryn o’ch blaen. Chwaraeir yr wyth twll sy’n weddill ar y Penrhyn, ymestyniad o dir cul gyda’r môr ar un ochr a thraethau tywod ar y naill. Gofynnir am ergydion manwl cywir yma a bydd angen ambell i ergyd dros gildraethau a chilfachau ysblennydd, lle mae peryglon yn wobrwyon. Llawn her, llawn hedd yw’r Penrhyn.


Bydd y ddreif ddelfrydol yn cael ei gyrru i lawr ochr chwith y llain sy’n goleddu’n raddol o’r chwith i’r dde, gan adael ail ergyd i’r lawnt gyda’r môr y tu cefn. Amddiffynnir y lawnt gan sawl byncr i’r chwith ac un ar y dde.