Her golffio heb ei hail
Her golffio heb ei hail
Os dach chi’n edrych am fan cyfarfod i gynhadledd fusnes neu seminar, a hyd yn oed cyfuno hyn gyda rownd o golff, does unlle’n debyg i Glwb Golff Nefyn.
Gellir cynnig cyfleuster cynhadledd i hyd at 80 o gynadleddwyr, yn ddibynnol ar y cynllun a ffafrir.
Mae digonedd o lefydd parcio ac os oes angen llety, gellir trefnu pecyn gyda rhai o’r gwestai lleol.
Gallwch ddewis Clwb Golff Nefyn am eich pen-blwydd, eich dathliad priodas neu hyd yn oed eich neithior priodas!
Yn ogystal â’r lolfa, y bar a’r bwyty, mae llawr dawnsio a llawr wedi’i neilltuo ar gyfer band byw neu ddisgo ar gael.