Her golffio heb ei hail
Her golffio heb ei hail
Safon Gwisgo
Cwrs golff gyda safonau pencampwriaeth yw Nefyn, man lle y medrwch ymlacio ar eich gwyliau. Dehonglir y term ‘dillad segura smart’ ar y cwrs ac yn y Clwb fel:
Tra derbynnir trowsus cwta teilwredig, nid yw jîns, treinars, siwtiau ymarfer, crysau heb goler, festiau chwaraeon, ayyb yn dderbyniol.
Disgwylir i chwaraewyr wisgo esgidiau golff gyda sbeiciau ar y cwrs, ond nid ydynt yn dderbyniol yn y Clwb, ar wahân i’r Bar Sbeic.
Ni serfir personau sy’n gwrthod adlynu â’r rheolau gwisg yma ac fe ofynnir iddynt adael y Clwb.
Tocynnau Rhodd
Bydd y Clwb yn hapus iawn i baratoi tocyn rhodd bersonol i chi am rownd o golff, anrheg delfrydol a chroesawus i unrhyw olffiwr brwdfrydig! Gallwn ei yrru’n uniongyrchol i chi neu i’r derbynnydd gydag unrhyw neges y dymunwch roddi arno. Cysylltwch â swyddfa’r Ysgrifennydd i drafod eich anghenion

Mae Clwb Golff Nefyn a’r Cylch ym mhentref Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd Orllewin Cymru ac mae’n hawdd iawn cyrraedd y llecyn yma trwy’r awyr, ar
O'r Gogledd Orllewin
A55 o Gaer i Fangor. A487 i Gaernarfon / Llanwnda. Ar y gylchfan yn Llanwnda cymerwch yr A499 am Bwllheli/Llanaelhaearn. Yn Llanaelhaearn, trowch i’r dde ar hyd y B4417 am Nefyn trwy Lithfaen a Phistyll. Ar y cylchfan bychan yn Nefyn trowch i’r dde ar hyd y B4417 i Forfa Nefyn.
Morfa Nefyn
Yn y groesfan ym Morfa Nefyn trowch i’r dde ar y B4412 (Lôn Pen Rhos) sy’n arwain yn union at Lôn Golff. Gwelir y Clwb Golff ar ben y bryn o’ch blaen.
O'r De
A497 o Bwllheli i Nefyn. Yn y cylchfan cyntaf, rhyw 6 milltir o Bwllheli, ewch yn syth ar draws i’r B 4412 am Forfa Nefyn.
Morfa Nefyn
Ymhen 1 filltir, yn y groesfan ym Morfa Nefyn ewch ar draws gan ddal ar y B4412 (Lôn Pen Rhos) sy’n arwain yn union at Lôn Golff. Gwelir y Clwb Golff ar ben y bryn o’ch blaen.