Nefyn, da ni byth yn cau !
Cyflwyno'r Cwrs
Bydd gan ymwelwyr i Nefyn ddewis o chwarae'R Hen Gwrs neu’r Cwrs Newydd, er y gobeithir iddynt neilltuo digon o amser i chwarae’r ddau!.
Mae’r Hen Gwrs yn cychwyn gyda thri thwll par pedwar ac un twll par pump, yr ail, trydydd a’r pedwerydd yn dilyn yr arfordir cyn troi i’r mewndir i chwarae chwe thwll gyda golygfeydd godidog o Eryri, Yr Eifl, Garn Boduan a Garn Fadryn o’ch blaen. Chwaraeir yr wyth twll sy’n weddill ar y Penrhyn, ymestyniad o dir cul gyda’r môr ar un ochr a thraethau tywod ar y naill. Gofynnir am ergydion manwl cywir yma a bydd angen ambell i ergyd dros gildraethau a chilfachau ysblennydd, lle mae peryglon yn wobrwyon. Llawn her, llawn hedd yw’r Penrhyn.
Ar ôl y deg twll cyntaf, yn hytrach na chwarae’r Hen Gwrs,mae’n bosib chwarae’r Cwrs Newydd. Cychwynnir gyda phâr tri sy’n
amrywio o goedyn i haearn canolig yn ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt. Yn dilyn, ceir cyfres o dyllau par pedwar gweddol hir hyd atgilfach Abergeirch.
Yn dilyn yr ail dwll ar bymtheg (par pump hir), byddwch yndringo i di’r deunawfed gyda’i
olygfa banoramig o’r holl gwrs.
Tyllau 1 – 10Tyllau 11 – 18 NewTyllau 11 – 18 Old
Twll 16 Newydd
Dreif rhannol ddall ar dwll sy’n crymanu i’r dde. Tri byncr mewn lleoliad ar droad y twll i ddal dreif sy’n ceisio lleihau hyd y twll. Ail ergyd gyda haearn byr i lawnt gul, hir, gyda bynceri yn fyr ac ar y chwith.